top of page

Rhaglenni SMART

Ariannu prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cynnwys un (neu fwy) o sefydliadau ymchwil Cymreig, a mwy nag un partner diwydiannol, gyda’r nod o dyfu amgylchedd Ymchwil, Datblygu ac Arloesi sy’n cael ei yrru gan alw.

Mae SMARTCymru yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd, ar bob cam o brosiect ymchwil a datblygu, o ddichonoldeb cychwynnol i ymelwa ar y farchnad. 

Mae Partneriaethau SMART ariannu prosiectau cydweithredu arloesol sydd angen ystod o arbenigedd i helpu busnesau i dyfu, gwella cynhyrchiant a chynyddu cystadleurwydd.

Mae SMARTInnovation yn darparu cyngor a chymorth arbenigol i fusnesau sy’n cymryd eu camau cyntaf i arloesi ac ymchwil a datblygu.

Anchor 1

Cymorth Ymchwil ac Arloesi Cydweithredol

(CRISP)

Mae’r Rhaglen Cymorth Ymchwil ac Arloesi Cydweithredol (CRISP) yn gronfa sydd wedi’i bwriadu i ysgogi gallu sefydliadau yng Nghymru i gymryd rhan mewn Ymchwil a Datblygu Cydweithredol newydd. Mae’r cynllun ar gael i bob sefydliad Cymreig (BBaCh, Cwmnïau Mawr, sefydliadau AB, sefydliadau AU a Sefydliadau Sector Cyhoeddus) sy’n gweithredu o fewn y sectorau blaenoriaeth ac sydd â’r gallu yn eu safle Cymreig i gymryd rhan yn y prosiect arfaethedig.

  • Cyfleoedd Cydweithio Newydd – Cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau â thema. 

  • Paratoi cynigion a chefnogaeth ar gyfer galwadau ymchwil a datblygu a chystadlaethau (ysgrifennu cynigion arbenigol).

  • Ymgynghoriaeth i Gefnogi Prosiectau Strategol.

  • Cefnogaeth ar gyfer Masnacheiddio.

Mae cyllid ar gael ar gyfer hyd at 50% o gostau cymwys, hyd at uchafswm o £5,000.

Anchor 2

Talebau Arloesedd

Gall Talebau Arloesedd helpu i ran-ariannu gweithgaredd arloesi hyd at £25,000 mewn cyfnod o 12 mis gan alluogi eich busnes i:

  • Caffael arbenigedd ymgynghori technegol o'r sector preifat Gweithredu datblygiad cynnyrch newydd neu welliannau mewn gweithgynhyrchu a dylunio

  • Cydweithio â Phrifysgolion a Cholegau i helpu i ddatrys eich problemau technegol

  • Cael mynediad at wasanaethau arbenigol ar gyfer cofrestru Eiddo Deallusol

  • Ariannu offer cyfalaf sy’n cefnogi ‘newid sylweddol’ technoleg ar gyfer y busnes.

Anchor 3

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth

(KTP)

Mae KTP yn hwyluso'r broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd academaidd i brosiectau strategol busnes go iawn. Wedi'i ariannu'n rhannol gan y Llywodraeth, mae'r cynllun yn gyfle unigryw ar gyfer cydweithio academaidd a busnes.

 

Mae'r cynllun KTP yn helpu busnesau i arloesi a thyfu. Mae'n gwneud hyn trwy eu cysylltu â Sefydliad Ymchwil a myfyriwr graddedig i weithio ar brosiect penodol.

Arweinir y Cynllun KTP gan Innovate UK a’i ariannu gan 13 o sefydliadau’r llywodraeth gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau sy’n arloesol ac yn llawn dychymyg eu cwmpas, sydd â photensial masnachol ac sy’n darparu budd economaidd a chymdeithasol i Gymru.

Anchor 4

Cefnogi Ymchwil Cydweithredol ac Arloesi yn Ewrop (SCoRE Cymru)

Mae SCoRE Cymru yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau yng Nghymru sydd am gael mynediad i raglenni ymchwil ac arloesi fel Horizon 2020. Mae hyn yn cynnwys:

  • Costau teithio sy’n gysylltiedig â chwrdd â phartneriaid posibl neu bresennol a mynychu digwyddiadau allweddol (hyd at £1,000 y daith)

  • Costau datblygu cynigion, gan gynnwys ysgrifennu cynigion, cyngor cyfreithiol/technegol penodol neu ymchwil effaith/marchnad (hyd at £10,000)

Mae cymorth busnes Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar 9 sector:TGCh, Ynni a'r amgylchedd, Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, Diwydiannau creadigol, Gwyddorau bywyd, Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, Adeiladu, Bwyd a Ffermio a Twristiaeth.

Anchor 5

Menter Ymchwil Busnesau Bach

(SBRI)

Mae SBRI yn broses sydd wedi'i hen sefydlu i gysylltu heriau'r sector cyhoeddus â syniadau arloesol gan ddiwydiant, cefnogi cwmnïau i gynhyrchu twf economaidd a galluogi gwelliant wrth gyflawni amcanion y llywodraeth. 

Mae SBRI yn darparu atebion arloesol i heriau a wynebir gan y sector cyhoeddus, gan arwain at well gwasanaethau cyhoeddus a gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae'n creu cyfleoedd busnes newydd i gwmnïau, yn darparu llwybr i fentrau bach a chanolig (BBaChau) i farchnata eu syniadau ac yn pontio'r bwlch cyllid sbarduno a brofir gan lawer o gwmnïau cyfnod cynnar. Mae'n cefnogi twf economaidd ac yn galluogi datblygiad cynhyrchion a gwasanaethau arloesol trwy gaffael cyhoeddus ymchwil a datblygu (Y&D).

Anchor 6
bottom of page