
Datblygu partneriaeth
Gyda rhwydwaith sylweddol o bartneriaid a chysylltiadau rhyngwladol mae'r Strategaeth Arloesedd yn gallu creu llwyfan ar gyfer cydweithredu i randdeiliaid o bob sector.
Ein Dull
Mae gennym rwydwaith helaeth o gysylltiadau gwerthfawr a all gefnogi datblygiad prosiectau.
Mae gan y Strategaeth Arloesedd rwydwaith eang gan gynnwys sefydliadau academaidd, busnesau bach, cwmnïau rhyngwladol, buddsoddwyr a chysylltiadau sector cyhoeddus. Gall ein rhwydwaith ddarparu mynediad i nifer o bartneriaid posibl ac ehangu eich consortiwm prosiect. Yn Strategaeth Arloesedd credwn fod cydweithredu ar arloesi a arweinir gan her yn cefnogi pawb, ei fod yn helpu i ddod o hyd i atebion i faterion cymdeithasol, yn galluogi busnesau i dyfu ac yn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth ar draws rhanddeiliaid.