top of page

Digwyddiadau

Rhwydwaith yw Ecosystem Iechyd Digidol Cymru sy’n cysylltu datblygwyr a chwmnïau ag atebion iechyd digidol arloesol â’r GIG yng Nghymru. Nod eu digwyddiad yn y gwanwyn yw cyflymu'r broses o ddarparu a mabwysiadu'r atebion digidol diweddaraf i wella canlyniadau cleifion, lleihau costau, cefnogi datblygiad cynhyrchion a gwasanaethau newydd i ysgogi twf busnes a chreu llwybr ar gyfer mynediad at ddata iechyd a gofal. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.busnescymru.llyw.cymru

Ecosystem Iechyd Digidol
Digwyddiad Cymru 
6ed Mawrth, 2018
Caerdydd, Cymru
Mae Biowales yn dychwelyd i Gymru eleni gan ddod ag arbenigwyr o’r diwydiant, buddsoddwyr, rhwydweithiau, gweithwyr proffesiynol y GIG, y byd academaidd a’r ecosystem arloesi ynghyd. Biowales yw un o gynadleddau gwyddor bywyd mwyaf y DU yn y DU ac mae bellach yn ei 16eg flwyddyn. Un o themâu allweddol y digwyddiad eleni yw Arloesi. Ewch i wefan Biowales am ragor o wybodaethwww.biowales.com
BioCymru 2018
7fed Mawrth, 2018
Caerdydd, Cymru
Bydd digwyddiad Horizon 2020 Llywodraeth Cymru yn trafod sut y bydd Cymru sy’n edrych allan yn elwa o ymgysylltu â Rhaglenni Fframwaith yr UE ar gyfer ymchwil ac Arloesi. Bydd y digwyddiad yn archwilio ymhellach sut y bydd cydweithio parhaus ag Ewrop a gweddill y byd yn cefnogi Cymru o ran cystadleurwydd a thwf.Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.busnescymru.llyw.cymru
Digwyddiad ymgysylltu Horizon 2020
15fed Mawrth, 2018
Caerdydd, Cymru

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhaglen ar gyfer y DU gyfan sy’n helpu busnesau i wella eu gallu i gystadlu a’u cynhyrchiant trwy wneud gwell defnydd o wybodaeth, technoleg a sgiliau sy’n perthyn i Sylfaen Wybodaeth y DU. Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn gwasanaethu i ddiwallu angen strategol craidd a chanfod atebion arloesol i helpu'r busnes hwnnw i dyfu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.busnescymru.llyw.cymru

Digwyddiad Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth 
22ain Mawrth, 2018
Llanelwy, Cymru

Mae Gŵyl Arloesedd Cymru yn ôl am flwyddyn arall i arddangos arloesedd yng Nghymru drwy ddigwyddiadau amrywiol. Bydd y digwyddiadau’n rhoi cyfle i sefydliadau ac unigolion arloesol ddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid a rhwydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant ledled Cymru a thu hwnt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.festivalofinnovation.org

gŵyl arloesi Cymru – arddangos arloesedd Cymreig
Mehefin 16eg, 2018
Cymru

Mae Gŵyl Arloesedd Cymru yn ôl am flwyddyn arall i arddangos arloesedd yng Nghymru drwy ddigwyddiadau amrywiol. Bydd y digwyddiadau’n rhoi cyfle i sefydliadau ac unigolion arloesol ddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid a rhwydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant ledled Cymru a thu hwnt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.festivalofinnovation.org

Blas Cymru (Ardal Arloesi)
03 Mawrth, 2019
Casnewydd, Cymru
bottom of page